Grant amddifadedd

 

Datganiad Grant Amddifadedd Ysgol Babanod ac Iau Llangennech

 

Dyrennir y Grant Amddifadedd Disgyblion i ysgolion â disgyblion sy’n dod o deuluoedd incwm isel ac y gwyddys eu bod ar hyn o bryd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim (e-FSM) a disgyblion sydd wedi derbyn gofal yn barhaus am fwy na chwe mis (LAC).

Disgwylir i ysgolion ddefnyddio’r cyllid hwn i’r eithaf i gyflwyno strategaethau cynaliadwy fydd yn arwain yn gyflym at newidiadau i ddysgwyr sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim neu sy’n LAC.

Fel ysgol rydym wedi cytuno ar y tri cham a ganlyn:

 

nodi’r grŵp targed o ddisgyblion, ei nodweddion a’i anghenion

cynllunio ymyraethau sy’n gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau

monitro a gwerthuso effaith adnoddau

 

Yn 2017-18 rhoddwyd i:

Ysgol Babanod Llangennech ddyraniad Grant Amddifadedd disgyblion o £14950  a £4800 Blynyddoedd Cynnar.

Ysgol Iau Llangennech  ddyraniad Grant Amddifadedd disgyblion o £18400 .

Yn yr ysgolion mae gennym gynllun cynhwysfawr, sydd wedi’i gytuno a'i fonitro gan Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin ac ERW, i hyrwyddo cynnydd a chael gwared ar rwystrau i ddysgu i fyfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer y cyllid hwn.

Rydym wedi defnyddio’r cyllid sydd ar gael i:

wella dysgu ac addysgu drwy ddarparu rhaglen gefnogi.

gwella presenoldeb y grŵp targed.

cefnogi dysgwyr a’u teuluoedd drwy.