Moeswers y mis

 AMYNEDD :

Y gallu i fod yn amyneddgar.

Amynedd i aros tro  a gwrando ar eraill.

Amynedd gyda chi eich hun pan nad yw pethau'n mynd fel a gynlluniwyd - peidio bod yn rhwystredig.

Amynedd at eraill

Derbyn mai nid nawr yw'r amser gorau ar gyfer popeth.

Diolch i'r CRhA am yr ipads newydd
Diolch i'r CRhA am yr ipads newydd

 

YSGOL GYFEILLGAR A HAPUS SYDD YN HYBU ADDYSG I BAWB

Ar ran y disgyblion, y staff a’r llywodraethwyr hoffwn eich croesawu i'n gwefan.
Ysgolion croesawgar yw ysgolion y pentref, lle mae pob disgybl yn cael eu cynnwys ym mhob gweithgaredd. Ein prif nod yr ysgolion hapus hyn yw sicrhau fod pob unigolyn yn cyrraedd eu gwir potensial. Gweithia'r llywodraethwyr a’r staff yn ddyfal i ddarparu addysg o’r radd flaenaf o fewn awyrgylch ddysgu hapus, ysgogol a diogel.
Rydym yn hybu’r plant i fod yn unigolion annibynnol ac hyderus ac yn eu hannog i gymryd cyfrifoldeb dros eu haddysg eu hunain. Credwn yn gryf fod plant ar eu gorau pan y mae staff a rhieni’n cydweithio’n glos ac felly gwerthfawrogwn gyfraniad y rhieni wrth ddatblygu addysgu ein plant. Rydym yn hyrwyddo’r ymddygiad orau phosib fel y gall bob disgybl gyflawni ei lawn botensial.

 "O'r fesen derwen a dyf"

Website Hits: 391202

Os oes gennych bryder am ddatblygiad eich plentyn, cysylltwch â Mr. A ar unwaith.